Tlodi parhaus
Data ar dlodi parhaus yng Nghymru, yn seiliedig ar adroddiad Dynameg Incwm yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Cynnwys
Y cyhoeddiad diweddaraf
Beth i gadw mewn cof wrth ddehongli'r ystadegau hyn
Diffiniad
Yn y gyfres ddata hon diffinnir person fel eu bod mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol am o leiaf 3 allan o’r 4 blynedd yn olynol.
Ffynhonnell wahano
Ffynhonnell yr ystadegau hyn yw’r Arolwg Deall Cymdeithas, mae hyn yn wahanol i adroddiad Cartrefi islaw'r incwm cyfartalog sy'n defnyddio’r Arolwg o Adnoddau Teulu.
Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)
Rhoddwyd y gorau i’r dull cyfweld wyneb yn wyneb a ddefnyddiwyd ar gyfer yr Arolwg Deall Cymdeithas ym mis Mawrth 2020 a’i newid i ddull gweithredu ar y we yn gyntaf. Roedd y newid hwn yn gysylltiedig â chyfraddau ymateb is ar gyfer rhai grwpiau ac addaswyd gwaith pwysoli yn unol â hynny. O fis Ebrill 2022, ail-ddechreuwyd cyfweld wyneb yn wyneb ar gyfer rhan fach o'r sampl. Cynghorir defnyddio pwyll wrth wneud cymariaethau rhwng Tonnau 11 i 13 (sy’n cynnwys data a gasglwyd rhwng 2020 a 2022) a thonnau blaenorol.