Kirsty Williams, Gweinidog Addysg
Yn dilyn penodiad Aled Roberts yn Gomisiynydd y Gymraeg, hoffwn gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel Cadeirydd Bwrdd Cynghori Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) heddiw. Rwy'n hynod ddiolchgar i Aled am ei waith yn arwain ar gam dau'r adolygiad CSGA ac am sefydlu Bwrdd annibynnol i roi cyngor ar newidiadau i'r ddeddfwriaeth sy'n sail i gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg, yn unol â Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Rwy'n dymuno'n dda iddo yn ei rôl newydd fel Comisiynydd y Gymraeg.
Er mwyn cwblhau gwaith y Bwrdd rwyf wedi gofyn i Dylan Foster Evans sy’n aelod o'r Bwrdd ar hyn o bryd i gamu ymlaen fel y Cadeirydd i oruchwylio'r gwaith ac rwy’n ddiolchgar iddo am wneud.
Edrychaf ymlaen yn awr at dderbyn adroddiad terfynol y Bwrdd pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau ac rwy'n ddiolchgar i aelodau’r Bwrdd am eu cefnogaeth barhaus. Byddaf yn diweddaru aelodau’r Cynulliad o’r cynnydd.