Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi eisoes wedi pennu'r cyfeiriad, gan symud i ffwrdd o ddatblygu economaidd sy'n seiliedig ar sectorau, i un sy'n canolbwyntio ar le – gan wneud y cymunedau rydym yn byw ynddynt yn gryfach ac yn fwy cydnerth. Mae'n rhoi rhagor o bwyslais ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, ac yn dangos newid i berthynas â busnesau lle y ceir rhywbeth yn gyfnewid am rywbeth arall.
Y cam nesaf ar gyfer y dull gweithredu hwnnw yw meithrin a thyfu sylfeini ein heconomïau lleol. Mae gofal, bwyd, tai, ynni ac adeiladu i gyd yn enghreifftiau o'r Economi Sylfaenol. Mae'r diwydiannau a'r cwmnïau sydd yno’n bodoli oherwydd bod pobl yno. Y bwyd rydym yn ei fwyta, y cartrefi rydym yn byw ynddynt, yr ynni rydym yn ei ddefnyddio a'r gofal rydym yn ei dderbyn: mae'r gwasanaethau sylfaenol hynny y mae pob dinesydd yn dibynnu arnynt yn ein cadw yn ddiogel, yn iach ac yn waraidd.
Nid rhannau bach o'n heconomi yw’r rhain. Maent yn cyfrif am bedair o bob deg swydd, ac £1 o bob tair rydym yn eu gwario*.
Rwyf am roi diweddariad i'r Aelodau ar y cynnydd rydym yn ei wneud yn y maes hwn, a rhannu rhywfaint o'r gwaith sydd o'n blaen.
Heddiw, rwy'n arwain digwyddiad sy'n dod â rhanddeiliaid arweiniol yn yr Economi Sylfaenol, ac arbenigwyr cydnabyddedig o ledled y DU ac Ewrop at ei gilydd i drafod ei harwyddocâd i Gymru? Rwyf am i'n dull gweithredu ni gael ei arwain gan yr arferion gorau a'r arbenigedd mae'r ymarferwyr mwyaf blaengar yn ei ddarparu. Mae'r digwyddiad yn gam bwysig ar y siwrnai ddysgu honno, ac yn y gwaith o drosi'r dysgu hwnnw'n arferion.
Cyn bo hir, byddaf yn lansio cronfa newydd sy'n adeiladu ar y cytundeb gyda Phlaid Cymru ar y gyllideb, sef £1.5 miliwn ar gyfer yr Economi Sylfaenol. Bydd hyn yn ein galluogi i gefnogi amrediad eang o brosiectau arloesol ac arbrofol a fydd yn ein galluogi i dreialu dulliau gweithredu gwahanol ledled Cymru. Rwy’n disgwyl y bydd modd cyflwyno ceisiadau am gyllid o’r gronfa yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd, ac yn seiliedig ar y trafodaethau rwyf eisoes wedi'u cael â rhai partïon sydd wedi mynegi diddordeb, rwy'n disgwyl y bydd yn creu cryn ddiddordeb ledled Cymru.
Yn fwy cyffredinol, rwyf am inni roi'r un ymrwymiad rydym eisoes yn ei roi i rai o'n cyflogwyr mwyaf, gan roi pwyslais cyfartal ar sefydliadau 'angor' lleol a'r rhwydwaith o gwmnïau gwahanol a gwasgaredig sy'n hanfodol o ran cyfrannu at ymdeimlad o le ac at lesiant yn ein cymunedau. Bydd hyn yn golygu newid y ffordd rydym yn meddwl ac yn gweithredu wrth inni sefydlu'r Economi Sylfaenol yn ein dull gweithredu ehangach ar gyfer datblygu economaidd.
Byddaf yn parhau i roi diweddariadau i Aelodau'r Cynulliad wrth i'r gwaith hwn ddatblygu dros y misoedd nesaf.
*Mae amcangyfrifon ymchwilwyr academaidd am faint yr Economi Sylfaenol ar gael yn https://foundationaleconomy.com/