Mae'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn cynnwys dyletswydd gyfreithiol i gadw a glanio pysgod, gan gynnwys y rheini a fyddai wedi cael eu gollwng yn y gorffennol.
Cyflwynwyd y rhwymedigaeth lanio ar sail ranbarthol. Yn y DU mae rhanbarth Môr y Gogledd a rhanbarth Dyfroedd y Gogledd-orllewin, sy'n cynnwys holl ddyfroedd Cymru.
Mae cyngor cynghori rhanbarthol wedi'i sefydlu ar gyfer pob ardal forol. Mae'r cyngor hwn yn cynnwys rhanddeiliaid o aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd. Mae'r cyngor yn cynnig cyngor ac yn cyflwyno argymhellion i Gomisiwn yr UE.
Cafodd y rhwymedigaeth lanio ei chyflwyno ar wahân ar gyfer y ddau brif grŵp o rywogaethau yn Rhanbarth Dyfroedd y Gogledd-orllewin. Cafodd gwahanol ddulliau ac amserlenni eu mabwysiadu ar gyfer rhywogaethau pelagig a rhywogaethau dyfnforol.
- Rhwymedigaeth lanio rhywogaethau pelagig (o 1 Ionawr 2015)
- Rhwymedigaeth lanio rhywogaethau dyfnforol (o 1 Ionawr 2016)