Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Mai 2019.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 722 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym eisiau eich barn chi ar waharddiad arfaethedig ar werthiant trydydd parti masnachol cŵn a chathod bach yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Gall gwerthiant trydydd parti masnachol fod yn gysylltiedig ag amodau lles gwaelach i’r anifeiliaid o gymharu â phrynu’n uniongyrchol gan y bridiwr.
Er enghraifft, gall cyflwyno sawl amgylchedd anghyfarwydd a’r tebygolrwydd o sawl siwrnai gyfrannu at risg gynyddol o afiechyd a diffyg cymdeithasu a chynefino.
Rydym yn ymgynghori ynghylch a fyddai newid polisi a/neu'r gyfraith yn gwella lles y cŵn a’r cathod bach pan maent yn cael eu gwerthu.