Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'n gwbl hanfodol sicrhau nad yw gallu pobl i fyw'n annibynnol dan fygythiad yn sgil newidiadau i'r ffordd y mae gofal a chymorth yn cael eu trefnu i bobl a fu gynt yn derbyn Grant Byw'n Annibynnol Cymru.
Sefydlwyd y Gronfa Byw'n Annibynnol (y Gronfa) gan Lywodraeth y DU yn 1988 er mwyn gwneud taliadau i bobl anabl ledled y DU i helpu gyda chostau ychwanegol byw'n annibynnol yn y cartref. Penderfynodd Llywodraeth y DU gau'r Gronfa i ymgeiswyr newydd yn 2010 cyn dod â'r Gronfa i ben yn llwyr yn 2015. Yn 2015, trosglwyddodd Llywodraeth y DU y cyfrifoldeb dros ddarparu cymorth i'r rhai a oedd yn cael eu heffeithio yng Nghymru i Lywodraeth Cymru. Wrth ochr hynny roedd cyfradd wastad o £27 miliwn y flwyddyn o gyllid rheolaidd.
Er mwyn sicrhau bod y cymorth yn parhau ar unwaith, buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sefydlu Grant Byw'n Annibynnol Cymru (y Grant). Ar yr adeg y trosglwyddwyd y cyfrifoldeb oddi wrth Lywodraeth y DU, roedd tua 1,600 yn derbyn arian o'r Gronfa yng Nghymru.
Er mwyn datblygu a chynghori ar yr opsiynau ar gyfer cymorth hirdymor, cynhaliodd y Gweinidogion ymgynghoriad ac fe sefydlwyd grŵp cynghori rhanddeiliaid. Roedd amrywiaeth o wahanol farn ymysg rhanddeiliaid. Yn dilyn trafodaeth ymysg y grŵp cynghori, cyhoeddodd y Gweinidogion ar ddiwedd 2016 y byddai dwy flynedd o gyfnod pontio yn cychwyn ym mis Ebrill 2017. Yn ystod y cyfnod hwn, byddai pob unigolyn yng Nghymru a arferai dderbyn arian o'r Gronfa ac a oedd bellach yn derbyn taliadau'r Grant yn cael asesiad o'u hanghenion gofal gan yr awdurdod lleol, cytuno ar gynllun gofal i gyflawni'r canlyniadau lles a gytunwyd, a gosod pecyn gofal a chymorth i gyflawni hynny.
Byddai pobl ond yn parhau i dderbyn taliadau gan eu hawdurdod lleol nes bod y cymorth newydd hwn wedi'i roi ar waith; bryd hynny byddai'r taliadau yn dod i ben a'r arian yn cael ei ddefnyddio fel cyfraniad at gostau darparu'r cymorth newydd hwnnw. Byddai elfennau yr asesiad gofal a'r ddarpariaeth yn cael eu cynnal yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae cymorth eirioli cadarn yn nodwedd o'r trosglwyddo hwn at ofal a chymorth gan yr awdurdod lleol. Mae hynny'n golygu y dylid cyd-gynhyrchu’r cynllun gofal a chymorth.
I gefnogi hyn, cafodd £27 miliwn o gyllid ei gynnwys ar sail reolaidd yn y setliad llywodraeth leol o 2018-19 ymlaen.
Ers dechrau'r cyfnod pontio mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn monitro perfformiad awdurdodau, ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny. Ers dechrau'r cyfnod pontio o ddwy flynedd ym mis Ebrill 2017 hyd at ddiwedd mis Rhagfyr llynedd, llwyddodd awdurdodau lleol i adolygu a chytuno ar anghenion gofal dros 1,200 allan o gyfanswm o ychydig llai na 1,300 o bobl. Roedd disgwyl i'r gweddill gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2019. Erbyn mis Rhagfyr roedd dros 950 o bobl yn derbyn cymorth gan eu hawdurdod lleol i hwyluso byw'n annibynnol, naill ai yn uniongyrchol gan eu hawdurdod neu drwy daliadau uniongyrchol i brynu'r gofal eu hunain.
Mae canfyddiadau interim arolwg gwerthuso annibynnol gan Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu, sy'n seiliedig ar sylwadau pobl anabl a'u gofalwyr, yn dangos bod mwyafrif y bobl a ymatebodd i'r arolwg yn fodlon â'r trefniadau newydd.
Fodd bynnag, gan na fu'r rhai arferai dderbyn taliadau o'r Gronfa yn destun asesiad gofal ers 2015 pan ddaeth y Gronfa i ben, mae'r ailasesiad hwn wedi achosi tensiwn mewn rhai achosion. Rwy'n deall pryderon rhai o'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y newid hwn i'r ffordd o weithio.
Cynhaliwyd adolygiad manwl gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ym mis Tachwedd gan ddatgelu bod mwyafrif helaeth o'r rhai arferai dderbyn taliadau o'r Gronfa bellach yn derbyn naill ai yr un pecyn gofal a chymorth ag yr oeddent gynt, neu oriau ychwanegol. Fodd bynnag, roedd 13 y cant o bobl bryd hynny wedi gweld gostyngiad yn oriau eu cymorth, ac er bod y gostyngiad hwnnw wedi'i gytuno gan bob ochr mewn nifer o achosion, roedd rhai pobl yn anfodlon â'u sefyllfa. Mae amrywiad sylweddol i'w weld yn lleol, gyda chanran y rhai arferai dderbyn taliadau o'r Gronfa sydd â'u horiau gofal wedi gostwng yn amrywio rhwng 0% a 42% mewn gwahanol awdurdodau lleol.
Rwyf wedi ystyried y dystiolaeth sydd ar gael ac wedi dod i'r casgliad bod yr amrywiad rhwng awdurdodau lleol yn gofyn am newid cyfeiriad. Rwyf felly wedi ysgrifennu at arweinwyr awdurdodau lleol yn gofyn iddynt oedi'r pontio ar unwaith er mwyn cyflwyno trefniadau diwygiedig.
Bydd angen gweithio ar fanylion y trefniadau newydd gydag awdurdodau lleol, ond dyma'r prif elfennau rwyf am eu sicrhau:
- Bydd asesiad annibynnol o waith cymdeithasol yn cael ei gynnig i bob un oedd yn arfer derbyn taliadau o'r Gronfa sydd bellach yn anfodlon â'u pecyn gofal a chymorth ac sy'n dymuno cael ail farn. Bydd y farn annibynnol hon yn adlewyrchu trefniadau oedd yn bodoli dan y Gronfa Byw'n Annibynnol, ac felly'n adfer system benderfyniadau dairochrog.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol am gost gweithwyr cymdeithasol annibynnol ac oriau gofal ychwanegol a all godi o'r asesiadau annibynnol hyn. Mae hynny'n golygu nad oes cwestiwn o newidiadau i becyn gofal a chymorth er mwyn torri costau.
- Yr egwyddor sylfaenol wrth gynnal asesiad annibynnol yw y dylai'r canlyniad fod yn gyson â chanlyniadau llesiant a gytunwyd ar gyfer pobl. Gan nad oes rhwystr ariannol, nid oes rhaid i unrhyw un gael gofal a chymorth llai ffafriol na'r hyn a gafwyd dan drefniadau’r Gronfa.
- Mae'r trefniadau hyn yn cydnabod hawl hanesyddol y rhai a fu'n derbyn arian o'r Gronfa yn y gorffennol.
Mae'n newid sylweddol o ran dull gweithredu, a fydd yn sicrhau bod anghenion y rhai arferai dderbyn taliadau'r Grant yn cael eu diwallu'n llawn, ac nad yw adnoddau yn rhwystr rhag cael pecyn llawn o ofal a chymorth. Byddaf yn ceisio gweithio'n agos gydag arweinwyr llywodraeth leol dros yr wythnosau nesaf er mwyn symud hyn yn ei flaen.
Hoffwn i ddiolch i Nathan Davies a’i gyd-ymgyrchwyr “Achub Grant Byw’n Annibynnol Cymru” am eu cyflwyniadau i Lywodraeth Cymru ar y mater hwn. Cefais gyfarfod â Nathan ddwywaith dros y tair wythnos ddiwethaf i glywed ei bryderon a cheisio datblygu ffordd newydd o weithio. Rwy’n deall bod Nathan yn cefnogi mewn egwyddor y trywydd rwy’ am ei ddilyn. Rydym yn cytuno bod angen ei roi ar waith yn briodol.