Cafodd rheolaethau symud da byw eu cyflwyno yn gyntaf ar ôl clwy'r traed a'r genau yn 2001.
Nid oedd cyfnod gwahardd symud yn bodoli cyn hyn, ac ystyrid mai symud da byw yn bell oedd yn gyfrifol am lawer o'r achosion o ledaenu'r clefyd.
Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 yn mynnu bod cyfnod gwahardd symud yn digwydd pan fydd gwartheg, defaid, geifr a/neu foch yn cael eu symud i ddaliad. Mae hyn yn atal unrhyw un o’r rhywogaethau hynny rhag symud o'r daliad hwnnw, ac eithrio i’w lladd.
Chwech niwrnod yw’r cyfnod gwahardd symud gwartheg, defaid a geifr; y rheol chwech niwrnod ar Wahardd Symud (6DSS) ac 20 diwrnod yw’r cyfnod gwahardd symud moch.
Mae’r rheol chwech niwrnod yn bodoli i ddiogelu statws iechyd y ddiadell a’r fuches genedlaethol, ac i leihau'r perygl o glefyd hynod heintus.
Mae ffermydd sy’n cadw at y rheol 6 niwrnod yn diogelu'r gymuned wledig a’i heconomi, ynghyd â’i gweithgareddau masnach a sioeau, rhag achos pellgyrhaeddol a thrychinebus o glefyd.
Mae ffermydd sy’n cadw at y rheol 6 niwrnod hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn arafu lledaeniad posibl unrhyw glefyd. Mae hyn yn golygu bod modd i'r gymuned leol, Llywodraeth Cymru a’i bartneriaid cyflenwi, ganfod, ynysu a dileu clefydau cyn gynted â phosibl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos â'r diwydiant amaeth i symleiddio’r rheolau ar symud anifeiliaid ac mae wedi creu cynllun sy’n darparu’r dewis sy’n caniatáu’r lefel uchaf o hyblygrwydd o ran symud ar gyfer masnachu ac sy’n cynnal rheolaeth effeithiol ar glefydau.
Ym mis Medi 2017, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno'r cynllun Unedau Cwarantin. Defnyddir yr esemptiad hwn i’r 6DSS ar gyfer gwartheg, defaid a geifr.