Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit
Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU adrodd wrth y Senedd yn rheolaidd am faterion yn ymwneud â fframweithiau cyffredin a defnydd Llywodraeth y DU o bwerau dan adran 12 o'r Ddeddf (y 'pwerau rhewi') dros dro i gynnal cyfyngiadau cyfraith bresennol yr UE ar gymhwysedd datganoledig. Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw adroddiad o'r fath gael ei osod gerbron y Cynulliad o fewn un diwrnod i gael ei osod yn Senedd y DU.
Gosodwyd yr ail adroddiad o'r fath yn Senedd y DU ar 7 Chwefror.