Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys tua 12,000 o bobl y flwyddyn. Mae’n rhedeg drwy’r flwyddyn, ledled Cymru gyfan. Defnyddir y canlyniadau gan Lywodraeth Cymru i helpu i wneud Cymru yn lle gwell i fyw.
Y canlyniadau diweddaraf
Arolwg Cenedlaethol Cymru: Ebrill 2022 i Fawrth 2023
Mae’r canlyniadau’n seiliedig ar gyfweliadau ffôn a holiaduron ar-lein a gynhaliwyd gyda phobl ledled Cymru.
Dangosydd canlyniadau
Mae holl ganlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol ar gael i’w gweld drwy ein dangosydd canlyniadau.
Canlyniadau yn ôl pwnc
Mae rhestr i’w gweld isod o’r meysydd pwnc eang sy’n cael eu trafod yn Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae pob dolen yn cynnwys yr holl adroddiadau a gyhoeddwyd mewn perthynas â’r maes pwnc yn ôl blwyddyn yr arolwg.
Ardal leol, y gymuned a'r amgylchedd
Awdurdodau lleol, mynediad at wasanaethau a cyfleusterau, teimlo’n ddiogel, cydlyniant cymunedol, teithio llesol, gweithredu amgylcheddol, ac ailgylchu.
Llesiant ac arian
Llesiant, unigrwydd, amddifadedd, gwirfoddoli, bodlonrwydd gyda swydd, gofalu, arian, ac anifeiliaid anwes.
Tai
Llety ac ynni.
Democratiaeth a llywodraeth
Gwneud penderfyniadau, bodlonrwydd gydag awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus, trethi, a Llywodraeth Cymru.
Iechyd poblogaethau
Statws iechyd pobl, salwch a ffyrdd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Y rhyngrwyd, sgiliau a'r cyfryngau
Mynediad i’r rhyngrwyd, sgiliau rhyngrwyd a’i defnyddio.
Diwylliant a’r iaith Gymraeg
Yr iaith Gymraeg, y celfyddydau, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd, ac amgueddfeydd.
Chwaraeon a hamdden
Cyfranogiad mewn chwaraeon a galw.
Plant ac addysg
Gofal plant, chwarae, diogelwch ar-lein, ac addysg.
Y GIG a gofal cymdeithasol
Iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Gweld yn ôl blwyddyn
O Ebrill 2016 i Fawrth 2017 ymlaen, gwnaeth yr Arolwg Cenedlaethol ddisodli Arolwg Cenedlaethol Ebrill 2012 i Fawrth 2015, Arolwg Iechyd Cymru, Arolwg Oedolion Egnïol, Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru, a’r Arolwg Hamdden Awyr Agored, fel y cytunwyd gan y Cabinet yn 2014.
Gwybodaeth gefndirol
Wrth flwyddyn
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch a’r tim Arolwg Cenedlaethol ar arolygon@llyw.cymru neu ar Llinell Ymholiadau Cyffredinol 0300 025 2021.