Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Mai 2018, cyhoeddais y bydd Llywodraeth Cymru'n sefydlu cynllun a gefnogir gan y wladwriaeth o fis Ebrill 2019 i darparu indemniad esgeuluster clinigol i ddarparwyr gwasanaethau Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru. Ym mis Tachwedd 2018 cyhoeddais mai Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg oedd y partner a ffefrir gennym i weithredu'r cynllun a gefnogir gan y wladwriaeth i Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru mewn perthynas â hawliadau esgeuluster clinigol sy'n codi o Ebrill 2019 (a elwir Cynllun Rhwymedigaethau'r Dyfodol). Cadarnheais fod penderfyniad terfynol ar ddarparu'r cynllun ei wneud ar ôl ymgysylltu pellach â sefydliadau amddiffyn meddygol a'n rhanddeiliaid eraill.
Yn sgil ymgysylltu ymhellach â sefydliadau amddiffyn meddygol a'n rhanddeiliaid eraill, rwyf wedi penderfynu mai Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fydd yn gweithredu'r cynllun a gefnogir gan y wladwriaeth i Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru mewn perthynas â hawliadau esgeuluster clinigol sy'n codi o 1 Ebrill 2019 ymlaen.
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi'r modelau gofal sylfaenol strategol yng Nghymru, sy’n alinio â’r weledigaeth a geir yn Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol i Gymru. Bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn nodi dysgu ar y cyd mewn perthynas â hawliadau esgeuluster clinigol Ymarferwyr Cyffredinol a fydd yn adeiladu ar y broses dysgu ar y cyd sy'n rhan annatod o gynllun gofal eilaidd a anelir at leihau amlder hawliadau a gwella ansawdd gofal a diogelwch cleifion. Mae gan y penderfyniad i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg weithredu’r cynllun a gefnogir gan y wladwriaeth gefnogaeth gref oddi wrth Gyngor Meddygon Teulu Cymru a GIG Cymru.
Nodwyd ein hymgysylltu â'r sefydliadau amddiffyn meddygol ac Ymarferwyr Cyffredinol lle mae angen cydweithredu a chydgysylltu â sefydliadau amddiffyn meddygol, o gofio'r indemniad y bydd sefydliadau amddiffyn meddygol yn parhau i'w ddarparu i Ymarferwyr Cyffredinol. Mae’n cynnwys un pwynt cyswllt, hawliadau trawsffiniol, materion gwrandawiadau'r GMC; canllawiau a chymorth i Ymarferwyr Cyffredinol, gan gynnwys cyngor meddygol a chyfreithiol. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn cyfarfod â’r sefydliadau amddiffyn meddygol ac Ymarferwyr Cyffredinol am y materion pwysig hyn i sicrhau y bydd gan Ymarferwyr Cyffredinol wasanaeth o ansawdd uchel o hyd gyda rhyngwyneb cryf a chlir â sefydliadau amddiffyn meddygol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gydweithio'n agos â'r sefydliadau amddiffyn meddygol a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod gan Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru gynllun sy'n amddiffyn eu henw proffesiynol ac sy'n darparu gofal iechyd cynaliadwy a hygyrch.
Byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig pellach ar y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â thrafodaethau â’r sefydliadau amddiffyn meddygol ynghylch hawliadau esgeuluster clinigol sydd wedi codi cyn Ebrill 2019 (a elwir y Cynllun Rhwymedigaethau Presennol) maes o law.