Dylech adrodd ynghylch unrhyw anifail a allai fod wedi cael ei wenwyno.
Arwyddion o wenwyno
Gallai'r canlynol fod yn arwyddion o wenwyno neu gam-drin plaladdwyr:
- anifeiliaid marw sy'n cael eu torri ar agor a'u denu (abwydod) - gallai'r rhain gynnwys gwenwyn
- nifer o adar neu anifeiliaid marw wrth ymyl ei gilydd
- creaduriaid yr ymddengys eu bod wedi marw'n sydyn heb unrhyw reswm amlwg
- wyau mewn mannau anarferol, o bosibl gyda marc inc arnynt
Adrodd ynghylch achos
Dylech gysylltu â'r Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt:
- rhadffôn 0800 321600 neu ffôn 03000 615920
- e-bost: bywydgwyllt@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg
Yr wybodaeth y dylech ei darparu
- lleoliad yr achos
- nifer yr anafusion a'r math o anafusion neu'r abwydod tybiedig
- pryd y digwyddodd yr achos
- enw cyswllt a rhif ffôn