O dan reoliad sylfaenol y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, mae dyletswydd i gadw a glanio pob pysgodyn a fyddai'n flaenorol wedi'i daflu yn ôl i'r môr.
Os ydych yn glanio gwastraff pysgod gan gydymffurfio â hynny, rhaid ichi gael gwared arno mewn ffyrdd penodol.
Ni chaniateir gwerthu pysgod sy'n rhy fach i'w bwyta’n uniongyrchol gan bobl.
Mae'r marchnadoedd lle y byddai’r pysgod hyn yn cael eu defnyddio at ddibenion eraill yn cynnwys:
- blawd pysgod
- olew pysgod
- abwyd
- bwyd anifeiliaid anwes
- cynhyrchion fferyllol
- cynnyrch cosmetig.
Cofiwch mai ni sy’n cyflawni’r rolau rheoli a gorfodi yma yng Nghymru. Yn Lloegr, DEFRA a'r Sefydliad Rheoli Morol sy'n gwneud hynny.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Rydym wedi dod â grŵp o randdeiliaid ynghyd sydd â diddordeb yn y ffordd y caiff gwastraff pysgod ei reoli ar y tir. Nid yw'n debygol y bydd llawer o wastraff o'r fath yn cael ei lanio yng Nghymru yn unol â'r rhwymedigaeth lanio. Ond, bydd y grŵp hwn yn cyfarfod yn ôl yr angen i adolygu'r sefyllfa wrth iddi ddatblygu.