Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Yn y Papur Gwyn, Taro’r cydbwysedd iawn, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynigion am Fil y Gymraeg newydd. Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad, yn ogystal â’r dystiolaeth ddiweddar oddi wrth nifer o randdeiliaid i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, mae’r Prif Weinidog, y Cabinet a minnau yn gytûn nad ydym am fwrw ymlaen i gyflwyno Bil y Gymraeg.
Y ddau brif nod o’r cychwyn oedd torri lawr ar fiwrocratiaeth y system safonau’r Gymraeg, a sefydlu trefniadau priodol ar gyfer hybu defnyddio’r Gymraeg er mwyn cyrraedd yr amcanion uchelgeisiol yn ein strategaeth, Cymraeg 2050.
Er yr anfodlonrwydd gyda rhai agweddau o’r safonau, mae’n glir nad oes awydd i newid y system yn ei chrynswth. Rwy’n hyderus bod modd torri lawr ar fiwrocratiaeth ac ymdrin â chwynion yn fwy effeithiol o fewn y ddeddfwriaeth bresennol. Byddaf yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i weithredu newidiadau yn fuan. Yn ogystal, byddaf yn ail-gychwyn y rhaglen o gyflwyno safonau ar gyfer cyrff newydd, cyn gynted ag y bydd yr amserlen deddfu ar gyfer Brexit yn eglur. O ran cyrff preifat eraill, megis banciau ac archfarchnadoedd, bydd y Comisiynydd a minnau yn parhau i ymgynghori yn agos â nhw a’u gwthio i ddarparu mwy o wasanaethau, yn fwy cyson, yn y Gymraeg.
Mewn perthynas â threfniadau i hybu’r Gymraeg, byddaf yn trafod y ffordd orau ymlaen gyda rhanddeiliaid, gan edrych eto ar y ffordd y mae cyfrifoldebau wedi eu dyrannu rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiynydd. Ni fyddaf yn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol nes i mi gael cyfle i drafod yr heriau a ddaw o hyn gyda’r Comisiynydd, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg a rhanddeiliaid eraill.