Rhydd yr adroddiad hon amcangyfrifon sy'n seiliedig ar 2018 o'r angen cyffredinol am dai ychwanegol yng Nghymru rhwng 2018-19 a 2037-38.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amcangyfrifon o’r angen am dai
Mae amcangyfrifon o'r angen am dai yn chwarae rhan allweddol wrth flaengynllunio ar lefel genedlaethol a lefel ranbarthol a chânt eu defnyddio i lywio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a datblygu polisi tai.
Cyfyngiadau
Mae'r Amcangyfrifon hyn yn:
- darparu amrywiaeth o angen am dai ychwanegol yn seiliedig ar dueddiadau blaenorol a'r data gorau sydd ar gael
- sail i drafodaeth am benderfyniadau polisi.
Nid yw’r Amcangyfrifon hyn yn:
- Gallu darogan beth yn union sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol
- Ffordd o bennu targed tai yng Nghymru
- Ceisio amcangyfrif nifer yr aelwydydd mewn llety anaddas.
Methodoleg
Mae'r ffigurau yn ymwneud â'r angen am dai ychwanegol ac maent yn seiliedig ar:
- amcangyfrifon o angen presennol nas diwallwyd
- angen newydd (amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2014). Nid rhagolygon mo amcanestyniadau aelwydydd, maent yn seiliedig ar dueddiadau blaenorol yn unig ac yn tybio y bydd y tueddiadau hyn yn parhau yn y dyfodol. Yn arbennig, nid yw'r fath amcanestyniadau yn ceisio cyfrif am effaith polisïau yn y dyfodol (er enghraifft, polisïau a allai ddylanwadu ar symudiadau'r boblogaeth) na digwyddiadau.
Canlyniadau allweddol
- Mae'r ystod o amcangyfrifon yn amlwg yn ehangu wrth fynd ymhellach i'r dyfodol, gan adlewyrchu natur ansicr yr amcangyfrifon hyn.
- Amcangyfrifir, ar gyfartaledd, y bydd angen rhwng 6,700 a 9,700 o dai ychwanegol bob blwyddyn yng Nghymru rhwng 2018-19 a 2022-23 (gydag amcangyfrif canolog o 8,300).
- Mae'r amcangyfrifon o'r angen am dai ychwanegol yn lleihau'n raddol dros y 15 mlynedd nesaf, gan adlewyrchu'r ffaith bod y twf rhagamcanol mewn aelwydydd yn arafu o'r amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2014 (a lywir gan amcanestyniadau o'r boblogaeth yn bennaf).
- Erbyn canol yr 2030au, amcangyfrifir y bydd angen hyd at 6,500 o dai ychwanegol bob blwyddyn yng Nghymru (gydag amcangyfrif canolog sydd islaw 4,000).
Adroddiadau
Amcangyfrifon o'r angen am dai yng Nghymru ar lefel genedlaethol a rhanbarthol (sail-2018) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.