Ken Skates AS Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Cynnwys
Cyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Cadeirydd Is-bwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru
- Trafnidiaeth Cymru
- Polisi trafnidiaeth
- Ffyrdd, gan gynnwys adeiladu, gwella a chynnal y traffyrdd a'r cefnffyrdd
- Gwasanaethau bysiau
- Gwasanaethau rheilffyrdd drwy fasnachfraint Cymru a'r Gororau
- Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd
- Teithio llesol
- Diogelwch ar y ffyrdd; llwybrau mwy diogel i'r ysgol; cludiant ar gyfer plant a phobl ifanc; rheoleiddio croesfannau i gerddwyr a pharcio ar y stryd
- Arwain ar bolisi mewn perthynas â'r Lluoedd Arfog yng Nghymru a Chyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog
* Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru rôl sy'n cydlynu materion yn ymwneud â'r Gogledd, ond dylid cyfeirio cwestiynau polisi penodol at y Gweinidog sydd â'r portffolio perthnasol.
Bywgraffiad
Yn ei amser rhydd, mae Ken yn mwynhau rhedeg, nofio, heicio a chwrlo ac mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn garddio, celf a dylunio pensaernïol. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys hyfforddiant sgiliau, twristiaeth, diogelu’r amgylchedd, iechyd meddwl, chwaraeon a ffitrwydd, a chynhwysiant cymdeithasol.
Cafodd Ken Skates ei eni yn Wrecsam ym 1976 a’i addysgu yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug. Aeth ymlaen i astudio Gwyddor Gymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Mae cefndir proffesiynol fel a ganlyn:
Cyn dod yn Aelod o'r Senedd roedd Ken yn newyddiadurwr ym mhapur newydd Wrexham Leader, ac yn Gymhorthydd Personol i Mark Tami AS.
Yn 2008, cafodd ei ethol yn gynghorydd cymuned. Mae diddordebau Ken ym maes polisi yn cynnwys gweithgynhyrchu, iechyd meddwl, chwaraeon a hamdden, dileu tlodi ac economi wleidyddol.
Cafodd Ken ei benodi i Lywodraeth Cymru fel Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn 2011. Yna cafodd ei benodi'n Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn 2014 a'i ddyrchafu'n Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ym mis Mai 2016. Penodwyd Ken yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ar 21 Mawrth 2024, a’i ailbenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar 11 Medi 2024.