Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi’r Adroddiad Addysg Cymru cyntaf erioed. Mae hyn yn cyflawni ymrwymiad sydd yng nghynllun gweithredu 'Cenhadaeth ein Cenedl'.
Mae'r set hon o brif ddangosyddion yn rhoi ciplun o ddata a gwybodaeth mewn ffordd dryloyw ac agored, a hynny i gyd mewn un lle. Nid mesurau gwerth uchel newydd yw’r rhain.
Bydd rhai o’r rhain yn newid dros amser wrth i'r broses ennill ei phlwyf ac wrth i nifer y dangosyddion gynyddu ac ehangu. Fel sy'n wir am nifer o systemau addysg gorau’r byd, mae proses hunanwerthuso gadarn a pharhaus yn caniatáu inni wybod sut mae'r system addysg yng Nghymru yn cyflawni, gan nodi'r llwyddiannau a'r blaenoriaethau o ran gwella.
Y llynedd, gofynnais i'm swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Addysg gynnal eu hunanwerthusiad eu hunain, gan ystyried argymhellion adolygiad diwethaf y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl. Rhannodd y Gyfarwyddiaeth Addysg eu canfyddiadau â'r ‘Atlantic Rim Collaboratory’ - arweinwyr ym maes addysg - a chawsant adborth cadarnhaol ac adeiladol ganddynt.
Dyma ddolen at grynodeb llafar o'r adroddiad, y prif ddangosyddion a'r prif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd o'n blaenau https://beta.llyw.cymru/adroddiad-addysg-penawdau-ar-gyfer-2019