Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Hydref diwethaf, cyhoeddais fy mod yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Fil drafft Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (Cymru) sy'n ceisio lleddfu pryderon moesegol trwy wahardd defnyddio anifeiliaid mewn syrcasau teithiol yng Nghymru. Nid oes syrcasau yng Nghymru sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt, er hynny, maen nhw'n ymweld â ni, a phob tro, ceir galw am wahardd yr arfer.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 28 Tachwedd 2018. Gofynnwyd i'r ymatebwyr ystyried 14 cwestiwn ynghylch y polisi cyffredinol, yr effaith ar blant a phobl ifanc, yr effaith ar yr economi, darpariaethau'r Bil drafft a'i effaith ar y Gymraeg.
Ni ofynnwyd a ddylid gwahardd defnyddio pob anifail mewn syrcas na chwaith a ddylid gwahardd defnyddio anifeiliaid mewn mathau eraill o adloniant.
Daeth dros 6,500 o ymatebion i'r ymgynghoriad i law. Roedd 97% o'r ymatebwyr yn cefnogi'n cynnig i gyflwyno deddfwriaeth fyddai'n ei gwneud yn drosedd defnyddio anifail gwyllt mewn syrcas deithiol. Roedd yr un ganran o ymatebwyr yn cytuno y byddai gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn cael effaith bositif ar agweddau plant a phobl ifanc at anifeiliaid.
Bydd yr ymatebion yn cyfarwyddo ddatblygiad y Bil Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (Cymru) ymhellach. Mae syrcasau teithiol wedi teithio o gwmpas y Deyrnas Unedig am ragor na 200 mlynedd a bydd dal croeso iddynt yng Nghymru cyn belled nad ydynt yn defnyddio anifeiliaid gwyllt. Bydd gwaharddiad yn rhoi neges glir bod pobl Cymru'n credu bod yr arfer yn un o'r oes o'r blaen ac yn foesegol annerbyniol.
Mae'r Crynodeb o'r Ymatebion i'r Ymgynghoriad ar Fil drafft Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (Cymru) ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://beta.llyw.cymru/bil-anifeiliaid-gwyllt-mewn-syrcasau-teithio