Gwybodaeth ynglŷn â myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) sy’n arwain at statws athro cymwysedig ar gyfer Medi 2017 i Awst 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Addysg Gychwynnol i Athrawon
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Roedd nifer yr athrawon ysgol uwchradd o dan hyfforddiant a dderbyniwyd dros draean (40%) yn is na’r targed yn 2017/18. Parhaodd nifer yr athrawon ysgol gynradd o dan hyfforddiant a dderbyniwyd i fod ychydig yn is na’r targed am y drydedd flwyddyn yn olynol.
- Dechreuodd 1,200 o fyfyrwyr ar gyrsiau AGA yn 2017/18; 670 ar gyrsiau ysgol gynradd a 525 ar gyrsiau ysgol uwchradd.
- Bu gostyngiad bychan yn nifer y myfyrwyr sy’n gallu addysgu yn y Gymraeg, sydd ar ei isaf ers 2007/08.
- Gwyddoniaeth, Addysg Gorfforol, a Saesneg yw’r pynctiau mwyaf cyffredin i fyfyrwyr sy’n dechrau ar gyrsiau AGA ysgol uwchradd.
- Roedd mwy na 8 o bob 10 o fyfyrwyr AGA newydd a oedd yn hyfforddi yng Nghymru yn byw yng Nghymru cyn dechrau ar eu gradd.
Cyhoeddi’r ystadegau hyn yn y dyfodol
Rydym yn y broses o ddiweddaru’r ffordd y bydd yr ystadegau hyn yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol, ac fe fyddem yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau sydd gennych.
Adroddiadau
Addysg gychwynnol i athrawon, Medi 2017 i Awst 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 862 KB
PDF
862 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.