Ein gwaith
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni di-elw sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru ac mae’n darparu cymorth ac arbenigedd ar gyfer prosiectau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Rydym yn un o’r rhai sy’n cyflawni elfennau o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu system drafnidiaeth integredig trawsnewidiol yng Nghymru, gan ddarparu trafnidiaeth ddigoel, fforddiadwy a chynaliadwy o safon uchel i bawb.
Cafodd ein strwythur ei gynllunio i fod yn adnodd hyblyg sydd â’r gallu i gynyddu neu leihau adnoddau i gyflawni anghenion prosiect, bodloni’r gofynion amrywiol a gwella gallu Llywodraeth Cymru i recriwtio sgiliau o’r farchnad yn gyflymach.
Rydym ar hyn o bryd yn cynllunio a chynnal prosies gaffael ar gyfer Gwasanaeth Rheilffordd nesaf Cymru a’r Gororau a’r Metro ar ran Llywodraeth Cymru.