Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidaieth
Rydym yn naturiol yn siomedig yn y cyhoeddiad a'r penderfyniad heddiw gan Schaeffler UK i gau eu gweithfeydd yn Llanelli. Bydd y gwaith yn trosglwyddo i ganolfannau eraill Schaeffler a'r safle yn cau ar ddiwedd 2019.
Rydym yn deall fodd bynnag bod y gostyngiad yn y galw am diesel a'r ffaith bod Schaeffler yn cynhyrchu gormod o beiriannau tappet, wedi arwain at gadarnhau y penderfyniad anodd hwn.
Bydd hwn yn peri pryder i'r gweithwyr a'u teuluoedd, fodd bynnag rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Schaeffler i gynnig cymaint o gefnogaeth â phosibl i'r gweithlu a chadw swyddi o safon uchel yn yr ardal.
Rydym wedi ein calonogi gan y cynigion sydd wedi dod o'r sector gweithgynhyrchu yn yr ardal i weithio gyda Schaeffler.
Rydym yn parhau i weithio gyda'r cwmni a phartneriaid rhanbarthol i gefnogi'r gweithlu ac rwyf heddiw yn sefydlu tasglu i ddatblygu'r gwaith hwnnw. Bydd y tasglu yn lansio eu rhaglen gymorth ar unwaith ar y cyd â phartneriaid lleol megis yr awdurdod lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Diwydiant Cymru. Mae'r tasglu yn cyfarfod yr wythnos nesaf.
Ein blaenoriaeth o hyd yw cefnogi'r gweithlu yn yr ardal yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad siomedig hwn.