Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Yn dilyn y gyhoeddiad ynghylch Setliad Dros Dro yr Heddlu ym mis Rhagfyr, rwyf heddiw yn gosod gerbron y Cynulliad Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2019-20 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr Heddlu a Throseddu). Mae hwn yn amlinellu elfen Llywodraeth Cymru o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2019-20. Mae’n dilyn cwblhau’r broses ymgynghori ar y Setliad Dros Dro, a chyhoeddiad y Swyddfa Gartref heddiw ar ddyraniadau terfynol Grant yr Heddlu ar gyfer cyrff plismona Cymru a Lloegr.
Mae fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr. Mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o’r ddarpariaeth cyllido heddlu yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.
Fel y cyhoeddwyd yn Setliad Dros Dro yr Heddlu, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith arian gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cynnydd yn y cyllid a dderbyniant o 2.1% ar gyfer 2019-20 o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2018-19.
Mae’r ffigurau wedi’u crynhoi yn Nhablau 1 i 3 y Datganiad hwn, ac nid ydynt wedi newid ers y Setliad Dros Dro. Cyfanswm y cymorth refeniw ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2019-20 yw £357.3 miliwn. O’r cyllid hwn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £143.4 miliwn fel Grant Cymorth Refeniw heb ei neilltuo ac Ardrethi Annomestig.
Disgwylir i Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol fod yn destun trafodaeth yn y Cynulliad ar 12 Chwefror.
Mae’r wybodaeth hon hefyd wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru