Bethan Owen
Gwobr Person Ifanc enillydd 2019
Mae Bethan yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Emrys ap Iwan yn Abergele. Ers yn ifanc, roedd wedi helpu ei thad i ofalu am ei Mam sy'n dioddef o epilepsy.
Pan oedd yn chwe mlwydd oed, cafodd Bethan ei chyflwyno i karate gan ei rhieni i roi ffocws iddi i ffwrdd o gyfrifoldebau y cartref. Erbyn iddi fod yn 12 oed, roedd gan Bethan felt du ac yn hyfforddwr karate.
Unwaith yr oedd wedi cymhwyso, agorodd Bethan ei chlwb karate di-elw cyntaf i ofalwyr ifanc eraill rhwng chwech a naw oed. Mae’r clwb, sy’n cwrdd bedair gwaith yr wythnos, ar gael i ofalwyr eraill, gan eu cefnogi i ddatblygu hyder, hunan-werth ac i gael seibiant o gyfrifoldebau gofalu. Yn ystod y dosbarthiadau, mae'n eu cefnogi drwy eu heriau o ddydd i ddydd yn ogystal â dysgu karate iddynt. Mae Bethan yn cynnig y dosbarthiadau hyn i ofalwyr eraill na fyddai efallai yn gallu fforddio'r math yma o ddosbarth. Dim ond tâl bychan sy'n cael ei godi ganddi i dalu costau y lleoliad.
Mae'r dosbarthiadau yn ffordd werthfawr iawn i ofalwyr ifanc fel hithau ddod i gael hwyl, cyfeillgarwch a chymorth.
Mae Bethan hefyd yn gwirfoddoli fel cadét heddlu.