Cwmni Theatr Hijinx
Gwobr Diwylliant enillydd 2019
Mae Hijinx yn gwmni theatr ledled Cymru sydd bob amser yn defnyddio actorion ag anawsterau niwrolegol ac actorion sydd ag anableddau dysgu yn eu cynyrchiadau theatr llwyddiannus. Mae Hijinx yn defnyddio'r theatr i fynd i'r afael â'r broblem gymdeithasol gymhleth o integreiddio anabledd dysgu yn y gweithle ac o fewn cymdeithas.
Nod Hijinx yw lleihau anghydraddoldeb. Maent yn credu y dylai pawb gael yr hawl i addysg ddiwylliannol ac i ddilyn bywyd deinamig, creadigol.
Er mwyn galluogi pobl sydd ag anawsterau dysgu i fod yn actorion proffesiynol, mae Hijinx wedi sefydlu pump o Golegau hyfforddi galwedigaethol, proffesiynol ledled Cymru sy'n golygu bod dros 70 o oedolion sydd ag anableddau dysgu neu anawsterau niwrolegol yn derbyn isafswm o 800 awr o addysgu gan yr ymarferwyr theatr a ffilm gorau sy'n gweithio yn y DU heddiw. Maent bellach wedi dechrau defnyddio yr un hyfforddiant yn Lesotho, Shanghai a Singapôr. Mae actorion o'r Colegau yn cael eu defnyddio mewn cynyrchiadau Hijinx sy'n teithio ledled y byd.
Hefyd, mae Hijinx yn cynorthwyo ac yn cynnal gŵyl Ryngwladol Hijinx Unity i ddathlu llwyddiannau perfformwyr anabl mwyaf dawnus y byd. Maent hefyd yn rhedeg rhaglen gyfranogi boblogaidd - gan gynnwys Colegau Ieuenctid a chyrsiau Sylfaen Drama - yng Nghaerdydd a Phrestatyn.
Caiff actorion Hijinx eu cyflogi hefyd i ddarparu hyfforddiant cyfathrebu i gleientiaid yn y sector cyhoeddus a phreifat. Gan ddefnyddio dulliau chwarae rôl ac yna greu sefyllfaoedd cyffredin maent yn helpu cleientiaid i wella'r ffordd y maent yn cyfathrebu gyda chwsmeriaid bregus. Mae eu cleientiaid amrywiol yn cynnwys y GIG, Maes Awyr Caerydd a'r sectorau cyfreithiol a lletygarwch.
Mae Hijinx hefyd yn dod o hyd i gyfleoedd i actio gyda chyflog i actorion sydd ag anableddau dysgu ym myd ffilm a theledu, ac yn lobïo y diwydiannau creadigol er mwyn bod yn fwy cynhwysol wrth gyflogi actorion.
Bydd ffilmiau Hijinx yn rhoi hyd yn oed mwy o gyfleoedd i actorion sydd ag anableddau dysgu gael profiad o actio ar gyfer y sgrîn. Maent wedi gosod yr her iddynt eu hunain i sicrhau bod actor sydd ag anabledd dysgu yn ennill Oscar erbyn 2030.