Emma Picton-Jones
Enwebiad ar gyfer gwobr Dinasyddiaeth
Mae Emma Jones yn 30 oed ac yn fam i ddau o Sir Benfro. Sefydlodd y DPJ Foundation yn 2016 wedi i'w gŵr Daniel Picton-Jones, contractwr amaethyddol, roi diwedd arno'i hun oherwydd problemau iechyd meddwl.
Mae'r DPJ Foundation yn helpu pobl yn y gymuned wledig sydd â phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig dynion yn y sector amaethyddol. Yn ôl yr ystadegau, mae'r perygl o hunanladdiad ymhlith dynion sy'n gweithio yn y diwydiant amaethyddol bron ddwywaith mor uchel a'r gyfartaledd.
Mae'r elusen bellach yn rhedeg gwasanaeth cyfeirio at gwnselwyr i weithwyr amaethyddol ac wedi lansio gwasanaeth testun a ffôn 24 awr, o'r enw Share the Load, ym mis Ionawr y llynedd.
Mae Emma, sy'n athrawes ysgol gynradd, hefyd yn siarad mewn nifer o ddigwyddiadau amaethyddol i godi ymwybyddiaeth o'u gwaith gydag eraill, gan gynnwys milfeddygon a chynrychiolwyr gwerthu bwydydd anifeiliaid, allai eu helpu i adnabod arwyddion o broblemau iechyd meddwl ymhlith eu cwsmeriaid.
Mae Emma hefyd wedi codi oddeutu £75,000 i gefnogi gwaith yr elusen hon, sy'n gobeithio ymestyn eu gwasanaethau ledled Cymru erbyn diwedd 2019.