Darran Kiley
Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder
Rhoddodd Darran Kiley, ysgubwr ffordd 49 mlwydd oed o Abertawe, ei hun mewn sefyllfa argyfyngus iawn, gan beryglu ei fywyd o bosibl, i helpu swyddogion yr heddlu.
Roedd Darran yn gweithio yn Kingsway, Abertawe ym mis Hydref 2017 pan ddaeth dyn ato ef a'i gydweithiwr yn chwifio cyllell. Yna aeth y dyn i ddychryn pensiynwr yn ei 70au drwy dynnu'r gyllell o'i fag. Aeth Darran at yr heddlu ar unwaith, ac yna aeth ar ôl y dyn wrth iddo redeg i ffwrdd.
Wrth i Darran fynd tuag at Orchard Street, gwelodd bod swyddog yr heddlu yn gweiddi ar y dyn i orwedd i lawr, ond roedd yn parhau i redeg i ffwrdd. Yna aeth ar ôl y dyn gan helpu'r Heddlu i'w ddal.
Nid oedd Darran yn meddwl dim am ei ddiogelwch ei hun wrth iddo helpu'r heddlu ddal y dyn arfog. Cafodd ei ganmol gan farnwr yn yr achos a'i gymeradwyo am ei ddewrder, ond ym marn Darran, dim ond gwneud ei waith oedd.