Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Yn dilyn fy natganiad ar 10 Ionawr, dymunaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr olew sydd wedi’i ollwng yn Aberdaugleddau. Yn dilyn yr adroddiad llygredd cychwynnol, mae'r tîm ymateb amlasiantaeth wedi hoelio sylw ar leihau effaith yr olew ar fywyd gwyllt a'r amgylchedd lleol. Ar ôl archwilio'r piblinellau tanwydd perthnasol a chynnal asesiadau ychwanegol, rydym bellach yn deall nad oedd mwy na 500 litr o olew wedi'i ollwng yn ystod y digwyddiad ar 3 Ionawr - sydd gryn dipyn yn llai na'r asesiad cychwynnol o 7,000 - 10,000 o litrau.
Bydd y gwaith glanhau bellach yn cael ei gynnal ar raddfa lai yr wythnos hon, yn amodol ar archwiliadau, a bydd y bwmau a osodwyd yn dilyn y digwyddiad i ddal yr olew yng Nghwrs Dŵr Aberdaugleddau, yn cael eu symud yr wythnos hon.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Valero a phartneriaethau amlasiantaeth wedi parhau i weithio gyda'i gilydd i arolygu'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt ac maent yn fodlon eu bod wedi dal cymaint o’r olew â phosibl.
Mae ymchwiliad i sut y digwyddodd y digwyddiad hwn yn parhau er mwyn ystyried pa gamau pellach sydd angen eu cymryd i atal hyn rhag digwydd eto. Ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn caniatáu i Valero ailagor y biblinellau nes ei fod yn fodlon y gall weithredu heb achosi rhagor o niwed i'r amgylchedd lleol.
Bydd rhaglen fonitro ac arolygu yn parhau dros yr wythnosau nesaf ac os yw pobl yn ymwybodol o unrhyw lygredd, dylent gysylltu â llinell ddigwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar 03000 65 3000.