Lesley Griffiths AC – y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Ar 3 Ionawr, collwyd olew o linell danwydd ar jeti Valero, Sir Benfro. Cafodd oddeutu 7 i 10 metr ciwbig o danwydd trwm ei ryddhau i ochr Dde dyfrffordd y Ddau Gleddau i'r Gorllewin o Valero T Head, gan olygu bod yr olew i'w weld yn y dŵr.
Mae Cynllun Llygredd Olew Wrth Gefn ar waith a daeth tîm ymateb aml-asiantaethol at ei gilydd sy'n cynnwys Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Benfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau. Trwy fy swyddogion, rwyf yn cysylltu'n rheolaidd â'r tîm ymateb drwy Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dechreuodd ymgyrch lanhau ar unwaith gan achub bywyd gwyllt o'r môr. Mae rhwystrau yn cael eu defnyddio yn y môr a'r traethau yn cael eu glanhau. Mae ychydig o olew yn parhau i ddod i'r lan yn Dale, ac i leihau unrhyw effaith bosibl mae rhwystr wedi ei ddefnyddio rhag ofn yn Sandy Haven, ac aber Gann i warchod ardaloedd bregus y morfeydd heli.
Mae Valero yn darparu staff a chyllid ar gyfer y gwaith glanhau, gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdodau Lleol sy'n rhoi cyngor a chanllawiau ar y gwaith glanhau ac yn goruchwylio'r gwaith o fonitro yr ardal. Cynhelir arolygon o'r arfordir ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad gorfodi i atal y defnydd o bibelli dau danwydd ar jeti Purfa Valero yn Aberdaugleddau.
Er bod y digwyddiad yn un difrifol, cafodd yr oel ei atal yn gyflym gan gyfyngu ar faint o olew a gollwyd. Mae'r llygredd a achoswyd yn cael ei werthuso ar hyn o bryd. Ychydig o olew sydd wedi cyrraedd y môr, ac nid yw'r olew bellach i'w weld yn y môr sy'n awgrymu ei fod wedi suddo neu ei fod o dan yr wyneb. Mae rhai cynefinoedd sensitif ar wely'r môr yn yr ardal yma ac felly bydd angen gwerthuso hyn ymhellach. Bydd y rhwystrau a ddefnyddiwyd yn aros yn eu lle i amddiffyn y morfeydd heli ac bydd y gwaith o lanhau'r traethau yn parhau fel y bo angen.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr ardal bellach i drefnu unrhyw waith glanhau sydd ei angen ac i weithio gyda Valero i leihau effaith hyn ac i sicrhau bod cyn lleied o berygl â phosibl i hyn ddigwydd eto.
Byddaf yn hysbysu'r Aelodau o unrhyw ddatblygiadau pellach.