Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Symud Cymru Ymlaen yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gyflwyno ein Cynnig Gofal Plant. Bydd y cynnig yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer plant tair a phedair oed i rieni sy’n gweithio, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Cychwynnwyd gweithredu'r Cynnig Gofal Plant yn gynnar ym mis Medi 2017, a hynny am 30 awr a oedd yn cynnwys addysg gyffredinol y Cyfnod Sylfaen i blant 3 a 4 oed, ac oriau ychwanegol o ofal plant a ariennir gan y Llywodraeth.
Mae Cymru’n falch o'r Cyfnod Sylfaen a'i ddull o addysgu a dysgu. Nodwyd bod hyn yn gryfder sylweddol o ran ymarfer addysgol yng Nghymru. Mae tystiolaeth yn dangos bod cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yn gwella cyrhaeddiad pob plentyn pan fo'n cael ei roi ar waith yn dda, gyda gwelliannau mewn presenoldeb, llythrennedd, rhifedd a lles cyffredinol dysgwyr. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddiogelu lle’r Cyfnod Sylfaen mewn addysg er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
Mae gweithredu'r Cynnig Gofal Plant yn gynnar wedi tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng y gyfradd dâl sy'n cael ei thalu gan awdurdodau lleol i ddarparwyr addysg y Cyfnod Sylfaen i'r blynyddoedd cynnar a gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cydnabu'r gwerthusiad gan Arad o'r flwyddyn gyntaf o weithredu'r cynnig yn gynnar fod y “gyfradd dâl ar gyfer rhai darparwyr sy’n cynnig Darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen yn is na’r gyfradd i ddarparu gofal plant a ariennir gan y Cynnig.” Roedd hyn yn atgyfnerthu canfyddiadau Arolwg Blynyddol Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd, a nododd fod cyflwyno Cynnig Cyfnod Sylfaen sy'n gynaliadwy yn bryder sylweddol o fewn y sector.
Rydym wedi gwrando ar eich pryderon. Mae'n bwysig ein bod yn deall yr effaith y bydd cyfradd gyllido wahanol yn ei chael ar ddyfodol addysg y Cyfnod Sylfaen, ac ar weithredu'r Cynllun Gofal Plant.
Felly, mae'n fwriad gennym i gynnal prosiect peilot, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, er mwyn profi effaith cyfradd ariannu gyson ar gyfer addysg gynnar a gofal plant. Bydd y cynllun peilot yn cael ei redeg ar gyfer y Cyfnod Sylfaen i blant 3 oed yn nhymor y gwanwyn a thymor yr haf 2019. Bydd gwerthusiad yn cael ei wneud tra bo'r prosiect peilot yn mynd rhagddo, ac rydym yn disgwyl adroddiad ar y casgliadau yn ystod tymor y gaeaf 2019.
Byddwn yn sicrhau bod yr Aelodau’n ymwybodol o ganlyniadau'r cynllun peilot.