Nod y prosiect yw cynorthwyo rhieni di-waith i dderbyn hyfforddiant neu swydd os mai gofal plant yw eu prif rwystr rhag gwneud hynny.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae'r adroddiad hwn yn ystyried:
- a yw'r rhaglen yn cael ei chyflwyno yn ôl y bwriad
- nodweddion y bobl sy’n cymryd rhan
- natur y cymorth a ddarperir
- perfformiad y rhaglen hyd yma.
Canfyddiadau allweddol
- Roedd gan 100% o gyfranogwyr PaCE gyfrifoldebau gofal plant ac roedd 96% ohonynt yn fenywod.
- Mae dros draean o'r holl gyfranogwyr wedi symud i mewn i waith, sy'n sylweddol uwch na’r targed, sef 20%.
- Cyn ymuno â PaCE, roedd y rhieni'n brin o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r gofal plant sydd ar gael.
- Ymddengys bod achosion o faterion iechyd meddwl lefel isel ymysg y bobl a gymerodd ran.
- Mae rhesymau cyfranogwyr dros ymgysylltu â PaCE yn amrywio, ond mae gan lawer ohonynt awydd gwirioneddol i ddod o hyd i waith.
- Yn gyffredinol, roedd gan gyfranogwyr berthynas dda â'u hymgynghorwyr.
- Roedd y cyfranogwyr a oedd wedi ymgymryd â lleoliadau gwirfoddoli yn y gwaith yn hynod bositif am y profiad.
- Ymddengys bod systemau rheoli a gweinyddu yn gweithio'n dda ar y cyfan.
- Mae'r gwaith o hyrwyddo PaCE wedi bod ar lefel eithaf isel.
- Mae cynghorwyr PaCE yn gweithio o amrywiaeth o leoliadau cymunedol.
- Ymddengys bod PaCE yn cael effeithiau ehangach ar gyfranogwyr a'u teuluoedd y tu hwnt i'w galluogi i symud i waith, addysg, hyfforddiant neu gymwysterau.
Bydd yr adroddiad nesaf yn y gyfres yn archwilio’r prosiect, ei effeithiau a’r gwerth am arian a gafwyd.
Adroddiadau
Gwerthusiad o'r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth: gwerthuso ar y broses a'r allbynnau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Gwerthusiad o'r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth: gwerthuso ar y broses a'r allbynnau (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 497 KB
PDF
497 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Launa Anderson
Rhif ffôn: 0300 025 9274
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.