Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar wybodaeth a gesglir yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr er mwyn amcangyfrif sawl oedolyn 16 oed a throsodd sydd yn byw yng Nghymru oedd yn gysylltiedig â damweiniau traffig ffordd, neu wedi eu hanafu ynddynt.
Mae’n cymharu’r ffigurau hyn â’r ffigurau swyddogol ar gyfer nifer yr anafusion traffig ffordd sydd yn cael eu hadrodd gan yr heddlu yng Nghymru trwy system adrodd damweiniau ac anafusion ffyrdd Stats19, ac mae’n trafod ystyr a goblygiadau’r canlyniadau hyn.
Mae'r adroddiad hefyd yn cymharu derbyniadau i'r ysbyty yn sgil damweiniau traffig ffyrdd â’r rhai fu’n 'hanafu'n ddifrifol’ wedi’u cofnodi gan ddata Stats19. Dengys fod data Stats19 yn is na derbyniadau'r ysbyty ar gyfer anafedigion traffig ffyrdd difrifol sy'n deillio o ddamweiniau cerbydau unigol. Gweler gwahaniaethau eraill yn ffigurau derbyniadau’r ysbyty, sy’n dangos cyfran uwch o feicwyr pedal plant, a chyfran uwch o ddefnyddwyr ceir oedrannus sy’n cael eu atgyfeirio i'r ysbyty o'u cymharu ag anafu'n ddifrifol gan y Stats19.
Yn olaf, mae'r adroddiad yn cymharu ffigurau ar farwolaethau damweiniau traffig ffyrdd Stats19 gyda data marwolaethau swyddogol. Mae’r ddwy gyfres o faint tebyg, er nad ydynt yn cyfateb mewn unrhyw flwyddyn unigol. Nid oes tuedd systematig ar gyfer y naill gyfres i fod yn is neu'n uwch na'r llall ac, yn fras, syrthiodd y ddau yn ystod y 2000au.
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.