Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg
Mae’n hanfodol bod addysg cerddoriaeth ar gael i’n holl bobl ifanc ni. Rwy’n cydnabod y dylid gwneud mwy i ddarparu cefnogaeth i bob plentyn yn hyn o beth, waeth beth fo’u cefndir, er mwyn rhoi cyfle i ddatblygu talent a sgiliau.
Mae’n bleser o’r mwyaf gen i gyhoeddi felly y bydd £500,000 ychwanegol ar gael yn 2018-19 a 2019-20, a hynny ar ben yr £1 miliwn sydd eisoes wedi’i gytuno gyda Phlaid Cymru, i roi cefnogaeth i weithgareddau cerddorol i bobl ifanc yng Nghymru.
Yn 2018-19, bydd £1.4 miliwnn yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol i awdurdodau lleol. Byddant yn dilyn meini prawf awgrymedig er mwyn blaenoriaethu mynediad i addysg cerddoriaeth o’r radd flaenaf i bob dysgwr, ym mha bynnag ffordd y gwelant bod angen gwneud hynny yn eu hardal leol.
Mae fy swyddogion yn parhau gyda’r gwaith a ddeilliodd o adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Taro’r Nodyn Cywir’, ar ôl ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati. Mae gwerth £100,000 wedi cael ei ddarparu er mwyn cwblhau’r gwaith hwn a sicrhau bod unrhyw gynlluniau ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth yn y dyfodol yn rai cwbl gynaliadwy.
Rwyf hefyd wedi sicrhau bod £100,000 ychwanegol ar gael yn 2018-19. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddyfarnu i Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru er mwyn cynnal y gwaith pwysig y maen nhw’n ei wneud ac er mwyn rhoi mwy o gyfle i’n cerddorion ifanc ni.
Hoffwn ddiolch i Bethan Sayed, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, am ei chefnogaeth ddiflino wrth fynd â’r gwaith hwn yn ei flaen.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.