Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Medi 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Nifer yr achosion o dwbercwlosis (TB) mewn gwartheg ym Mhrydain Fawr
Gwybodaeth am y gyfres:
Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB
- Yn y 12 mis hyd at fis Medi 2018, cofnodwyd 751 o fuchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru.
- Dyma ostyngiad o 3% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gofnodwyd 778 o achosion.
- Mae’r duedd gyffredinol ers 2009 yn fras am i lawr. Er hynny, nid yw’n gyson a chafwyd cyfnodau pan fu’r duedd ar i fyny a chyfnodau pan fu’r duedd am i lawr.
Anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB
- Yn y 12 mis hyd at fis Medi 2018, cafodd 9,965 o wartheg eu lladd i reoli TB Gwartheg.
- Dyma gynnydd o 3% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 9,703 o wartheg eu lladd.
- Mae’r duedd gyffredinol yn amrywio. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.