Gwybodaeth am y cysylltiad rhwng yfed a gyrru a damweiniau, canlyniadau profion anadl gyrwyr mewn damweiniau a chamau gorfodi sy'n ymwneud ag yfed a gyrru for 2017.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Yfed a gyrru
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Yn 2016, roedd 12% o bob gyrrwr cerbyd modur a 18% o feicwyr/gyrwyr beiciau modur a laddwyd mewn damwain traffig yn uwch na'r terfyn yfed a gyrru.
- Mae’r Adran Drafnidiaeth yn adrodd bod 7% o ddamweiniau sy'n achosi marwolaeth neu anafiad difrifol (KSI) a ddigwyddodd yng Nghymru yn 2016 yn ymwneud â gyrwyr uwchlaw’r terfyn alcohol yn y gwaed.
- O safbwynt damweiniau ffordd, mae barn swyddogion yr heddlu am ffactorau cyfrannol a arweiniodd at ddamweiniau yn awgrymu ffigur o 7% o ddamweiniau KSI yn ystod 2017 yn ymwneud â gyrwyr a oedd ‘dan ddylanwad alcohol’.
- Yn 2017, roedd 70 o ddamweiniau lle y gwnaeth swyddog yr heddlu adrodd bod cerddwyr dan ddylanwad alcohol yn ffactor cyfrannol.
Dengys profion anadl a wnaed ar yrwyr ar ôl damwain:
- roedd 4.6% o yrwyr (134) a oedd mewn damweiniau uwchlaw'r terfyn cyfreithiol ar gyfer gyrru
- digwyddodd dros ddwy ran o dair o'r profion positif rhwng 6yp a 4yb.
- roedd gyrwyr yn fwy tebygol o gael prawf positif ar benwythnosau yn hytrach nag yn ystod yr wythnos.
Adroddiadau
Yfed a gyrru, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.