Mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth fanwl am yr angen am sgiliau Cymraeg presennol ac i’r dyfodol gan gyflogwyr Cymru ar draws wyth sector.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Canfyddiadau allweddol
- Ystyriai ychydig dros draean y cyflogwyr o'r wyth sector a drafodwyd yn yr ymchwil fod cael staff a chanddynt sgiliau Cymraeg yn eu sefydliad yn bwysig iawn (18%) neu'n weddol bwysig (17%. Roedd y ffigur yn uwch ymhlith cyflogwyr yn y sectorau Gofal Plant, Bwyd-amaeth a Gofal Cymdeithasol. Ar y llaw arall, teimlai tua dau o bob pump (39%) nad oedd hi'n bwysig o gwbl cael staff a chanddynt sgiliau Cymraeg ar eu safle.
- Teimlai ychydig llai na thraean o’r holl gyflogwyr yn y sector preifat fod sgiliau Cymraeg eu staff yn cynnig rhywfaint o fudd i'w llinell waelod, er mai cymharol ychydig (5%) a ystyriai fod y sgiliau hynny'n cael effaith sylweddol yn hynny o beth.
- Roedd gan ddau draean (66%) o'r cyflogwyr staff â sgiliau Cymraeg, a dywedodd ychydig dros draean ohonynt fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y gweithle (35%).
- Amcangyfrifai’r cyflogwyr fod gan bron chwarter yr holl staff sgiliau Cymraeg ar ryw lefel neu'i gilydd, a bod 14% o'r holl staff yn defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. Roedd y ffigurau ar gyfer yr agwedd olaf yn uwch yn y sector Gofal Plant (59%), y sector Creadigol (39%) a'r sector Bwyd-amaeth (25%).
- Roedd dros chwarter y sefydliadau (28%) o'r farn y byddai'n fuddiol iddynt gael mwy o staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg, neu fwy o staff a chanddynt lefel uwch o sgiliau Cymraeg.
- Dros y 12 mis diwethaf, roedd 4% o sefydliadau wedi ariannu neu drefnu hyfforddiant wedi'i gynllunio'n benodol i ddatblygu sgiliau Cymraeg.
- Roedd 4% o gyflogwyr wedi ceisio gwybodaeth, cyngor neu gymorth ar faterion a oedd yn ymwneud â'r Gymraeg yn y gweithle yn ystod y 2-3 blynedd diwethaf. O blith y rhai nad oedd wedi gwneud hynny, ni fyddai mwy na dau o bob pump yn gwybod o le i gael gwybodaeth, cyngor neu gymorth o'r fath.
- Roedd 7% o'r sefydliadau'n disgwyl y byddai eu hangen am sgiliau Cymraeg yn cynyddu yn y 2-3 blynedd nesaf. Roedd hyn yn uwch ymhlith cyflogwyr Gofal Plant (28%), Gofal Cymdeithasol (15%), Creadigol (12%) a Lletygarwch (10%).
Adroddiadau
Anghenion o ran sgiliau Cymraeg mewn wyth sector , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Joanne Corke
Rhif ffôn: 0300 025 3811
E-bost: lmi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.