Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Nod Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw canfod yr ardaloedd bach o Gymru sydd fwyaf difreintiedig.
Cynnwys
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cyhoeddiadau blaenorol
Diweddariad Mynegai nesaf
Rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar ddangosyddion arfaethedig ar gyfer MALlC 2025, ochr yn ochr â chyfres o gwestiynau ar SmartSurvey sy'n gofyn am farn defnyddwyr. Mae'r arolwg bellach ar agor ar gyfer ymatebion ac yn cau ar 16 Rhagfyr 2024.
Darllenwch ein blog am y wybodaeth ddiweddaraf am amseriad Mynegai Amddifadedd Lluosog nesaf Cymru (MALlC), beth rydym wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar, a'r newid mewn ffiniau ardaloedd bach.
Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng ein diweddariadau dangosyddion a mynegai MALlC?
Bu diweddariad diwethaf graddfeydd MALlC yn 2019. Fodd bynnag, mae rhai o’r dangosyddion sy'n cyfrannu at y Mynegai yn cael eu diweddaru rhwng y diweddariadau llawn o’r Mynegai.