Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu ystod y dulliau a'r arferion o weithredu'r safon amgylcheddol gan gyfeirio at sampl o awdurdodau lleol sy'n cadw eu stoc dai neu sydd wrthi'n ei throsglwyddo.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae hefyd yn pwyso a mesur arferion da mewn ystod o brosiectau amgylcheddol, ac yn adolygu'r deunyddiau ysgrifenedig sy'n anelu at gynghori prosiectau ym maes gwella'r amgylchedd ac ymgysylltu â'r gymuned.
Mae'r ddogfen yn cynnwys cyfarwyddyd ynghylch Safon Amgylcheddol Safon Ansawdd Tai Cymru ac yn dehongli'r safon a'r broses o'i chyflawni. Mae hefyd yn mynd i'r afael â'r gwahanol elfennau o'r safon.