Adroddiad cynhwysfawr sydd yn cynnwys data Ionawr i Fehefin 2018 o’r prif arolygon twristiaeth.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Perfformiad twristiaeth Cymru
Teithiau dros nos o’r DU: diwygiedig
Mae’r data wedi cael eu diwygio yn dilyn cywiriad i ddata Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr. Am ragor o wybodaeth, gweler adran ‘ymweliadau dros nos gan drigolion Prydain Fawr’ o’r adroddiad.
Bu 5.1 miliwn o deithiau dros nos o’r DU i Gymru yn ystod 6 mis cyntaf 2018, yn cynhyrchu gwariant o £907 miliwn.
Teithiau undydd o’r DU
Yn ystod 6 mis cyntaf 2018 bu 46.7 miliwn o deithiau twristiaeth undydd i Gymru. Cynhyrchodd yr ymweliadau hyn wariant o £1.92 biliwn.
Ymweliadau rhyngwladol
Bu 430,000 o deithiau i Gymru gan ymwelwyr rhyngwladol yn ystod 6 mis cyntaf 2018, gyda gwariant o £167 miliwn.
Cyfraddau defnydd llety
Gwestai: 64%
Tai llety/Gwely a brecwast: 31%
Hunanddarpar: 50%
Hostelau: 48%
Baromedr Twristiaeth Cymru
Mae’r cam diweddaraf (Medi 2018) yn dangos bod 84% o fusnesau wedi derbyn lefel uwch neu debyg o ymwelwyr o gymharu â’r un cyfnod yn 2017 (40% yn uwch, 44% yn debyg). Mynegodd 79% o fusnesau hyder ar gyfer y tymor i ddod.