Richard Lee QAM.FIMC
Ymunodd Richard â’r gwasanaeth ambiwlans ym 1993 ar ôl gwasanaethu yn y Llu Awyr. Ar ôl ennill ei gymwysterau fel Parafeddyg ym 1995, bu Richard yn gweithio i wasanaethau ambiwlans yn Swydd Rhydychen, Llundain, Avon a Chymru. Mae Richard yn aelod o Goleg y Parafeddygon.
Mae gan Richard gymrodoriaeth mewn Gofal Meddygol Brys o Gyfadran Gofal Meddygol Brys Coleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin lle mae hefyd yn arholwr. Mae Richard yn Gymrodor Gwella Ansawdd gyda’r Sefydliad Iechyd, hynny yn sgil cwblhau’r rhaglen Cenhedlaeth Q yn 2014.
Richard oedd yr arweinydd clinigol a gweithredol ar gyfer datblygu Model Clinigol Ambiwlans GIG Cymru. Mae’r model wedi ennyn diddordeb gwasanaethau ambiwlans gwledydd eraill y DU a thu hwnt. Richard ar hyn o bryd yw Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Yn 2015, Richard oedd y cynrychiolydd ambiwlans a pharafeddygaeth ar Dîm Gweithredol y Prosiect ar gyfer datblygu Canllawiau Trawma Difrifol NICE y DU.
Dyfarnwyd Medal Ambiwlans y Frenhines i Ricahrd am ei wasanaethau nodedig yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016.