Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth allweddol ynghylch y galw am lafur ymhlith cyflogwyr, diffygion sgiliau, a'r lefelau buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygu’r gweithlu.

Fe'i cynhaliwyd ymhlith 91,210 o sefydliadau ledled y DU, o’u plith roedd 6,027 ohonynt wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae'n fodd i ddadansoddi pedair gwlad y DU a'u cymharu mewn perthynas â'r heriau a wynebir gan gyflogwyr o ran sgiliau a'r lefel o hyfforddiant a gynigir ganddynt.

Canfyddiadau allweddol

  • Mae canfyddiadau'n dangos hydwythedd yn y farchnad lafur yng Nghymru, gyda thyfiant sylweddol yn y nifer o gyflogwyr sy’n weithgar mewn recriwtiad. Roedd tystiolaeth hefyd o weithlu hynod o hyfedr, gyda’r mwyafrif llethol o sefydiadau’n sôn eu bod yn hapus gydag arbenigedd eu staff.
  • Mae cyflogwyr yng Nghymru’n cwrdd â’u hanghenion o ran sgiliau drwy ddarparu hyfforddiant: Mae bron i ddwy ran o dair o staff wedi derbyn hyfforddiant dros y 12 mis diwethaf, yn unol â ffigurau’r Deyrnas Unedig, tra bo buddsoddiad mewn hyfforddiant wedi cynyddu ers 2013 a 2011.
  • Fodd bynnag, mae sialensiau’n parhau sydd angen sylw. Cafwyd cynnydd yn y nifer o sefydliadau yng Nghymru sy’n cael anawsterau penodi oherwydd prinder sgiliau ymysg ymgeiswyr. Mae anawsterau cadwraeth wedi cynyddu ers 2011, tra bo tanddefnyddio’n ffenomenon eang. 
  • Mae canfyddiadau hefyd yn cadarnhau cysylltiad rhwng tanddefnyddio a phroblemau cadw staff sy’n awgrymu y dylai cyflogwyr feddwl yn ofalus am gynnig datblygiad i weithwyr cyflogedig er mwyn osgoi’r costau sy’n gysylltiedig â lefelau cadw staff isel megis recriwtiad a cholli cynhyrchiant.
  • Dan y lefel hon ar draws yr economi, roded amrywiadau galwedigaethol, sectoraidd a rhanbarthol ym mhrofiadau’r cyflogwyr o sgiliau. Er enghraifft, roedd cyflogwyr mewn gweithgynhyrchu’n fwy tebygol o gael eu heffeithio gan fylchau mewn sgiliau ac yn lleiaf tebygol o fod wedi darparu hyfforddiant dros y 12 mis diwethaf. Yn y cyfamser, roedd y rheiny yng Nghanolbarth Cymru wedi cael mwy o anawsterau wrth geisio canfod gweithwyr gyda’r sgiliau cywir i lenwi eu swyddi gwag.
  • Sgiliau allweddol i ddarparwyr hyfforddiant ymdrin â rheoli amser a blaenoriaethu tasgau, sgiliau arbenigol a gwybodaeth am y sefydliad neu’r cynnyrch.

Mae adroddiad Cymru yn trefnu’r canfyddiadau yn ôl rhanbarth, sector, maint y sefydliad a galwedigaeth a hefyd gwneud cymariaethau priodol gyda’r DU.

Adroddiadau

Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2015: Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB

PDF
5 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

James Carey

Rhif ffôn: 0300 025 3811

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.