Dyma'r un rhaglen ymchwil addysgol fwyaf a gomisiynwyd yn y DU erioed.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd y rhaglen yn cynnwys 52 o brosiectau mawr gwahanol, yn cwmpasu pob rhan o’r system addysg o’r blynyddoedd cynnar i ddysgu gydol oes.
Wrth i’r TLRP ddirwyn i ben, daeth yr Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Rhwydwaith Ymchwil Addysgol Cymru ynghyd i gomisiynu prosiect terfynol a gynlluniwyd i ystyried goblygiadau canfyddiadau’r rhaglen ymchwil fawr hon ar bolisi ac arfer addysgol yng Nghymru.
Mae pedwar tîm o ymchwilwyr o bob cwr o Gymru wedi adolygu canfyddiadau’r TLRP mewn perthynas â phedwar maes allweddol o bolisi Cymru.
- Y Cyfnod Sylfaen.
- Gwella Addysgu ar gyfer dysgwyr rhwng 7 a 14 oed.
- Cynhwysiant Cymdeithasol.
- Gwella Dysgu drwy Ystyried Safbwyntiau Dysgwyr.
Canlyniad yr adolygiadau yw cyfres o bosteri a phapurau briffio i gyflwyno canfyddiadau’r rhaglen ymchwil fawr hon i lunwyr polisi ac ymarferwyr ledled Cymru.