Manylion cofrestriadau a chymwysterau myfyrwyr ar gyfer Medi 2016 i Awst 2017.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Myfyrwyr mewn addysg uwch
Cofrestriadau addysg uwch gan fyfyrwyr yng Nghymru
- Yn 2016/17, parhaodd nifer y myfyrwyr o Gymru sydd wedi cofrestru mewn Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yn y DU i ddirywio, gan ostwng i 97,095.
- Roedd y dirywiad hwn o ganlyniad i ostyngiad o 2,050 (6%) yn nifer y myfyrwyr rhan-amser yn 2016/17.
- Am bob 10 o ddynion sydd wedi cofrestru mewn prifysgol, roedd 14 o fenywod.
- Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd oedd Pynciau Perthynol i Feddygaeth, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn gofrestriadau nyrsio.
Cofrestriadau addysg uwch yng Nghymru
- Bu gostyngiad bychan yn nifer y cofrestriadau mewn prifysgolion yng Nghymru am y bumed flwyddyn yn olynol, i 128,005 yn 2016/17.
- Roedd y gostyngiad yn rhannol oherwydd gostyngiad o 2,085 (7%) yn nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n astudio’n rhan-amser.
- Bu cynnydd arall yn nifer yr israddedigion llawn amser i’r ffigur uchaf a gofnodwyd erioed, sef 79,780.
- Roedd bron i hanner yr ôl-raddedigion yn astudio’n rhan-amser, o gymharu â bron i chwarter yr israddedigion.
- Roedd dros hanner y myfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghymru yn dod o Gymru cyn iddynt ddechrau astudio.
- Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion yng Nghymru yn 2016/17 oedd Gwyddorau Biolegol, gydag Astudiaethau Busnes a Gweinyddol yn dilyn yn agos.
Llifoedd trawsffiniol myfyrwyr llawn amser
- Mae Cymru’n fewnforiwr net myfyrwyr llawn amser o’r DU. Yn 2016/17, derbyniodd Cymru 9,350 yn fwy o fyfyrwyr o wledydd eraill y DU nag a anfonwyd i’r gwledydd hynny.
- Roedd 35,390 o fyfyrwyr o wledydd eraill y DU mewn prifysgolion yng Nghymru, o gymharu â 26,040 o fyfyrwyr o Gymru yn astudio mewn SAUau yng ngweddill y DU.
- Roedd dau o bob pump myfyriwr israddedig o Gymru yn astudio yn Lloegr, fel ag yr oedd ychydig dros draean o ôl-raddedigion o Gymru.
Cymwysterau addysg uwch
- Roedd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru wedi cynyddu i 28,025 yn 2016/17.
- Roedd ychydig dros dri chwarter y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru yn rhai israddedig.
- Roedd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd gan brifysgolion yng Nghymru wedi aros yn gymharol gyson yn 2016/17, sef 40,370.
Nodyn
Mae niferoedd myfyrwyr ar gyrsiau Addysg Uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru ar gael o 2016/17 ymlaen. Nid ydynt wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad isod gan nad oes yna ddata hanesyddol i gymharu ag ef; fodd bynnag, gellir gweld y data gan ddefnyddio’r nodwr Cwmpas yn nhablau perthnasol StatsCymru. Mae addysg uwch yng Nghymru yn cynnwys y rhai sy’n astudio yn y Brifysgol Agored y mae eu cyfeiriad parhaol yng Nghymru.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.