Anne Ellis OBE
Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon
Ym mis Gorffennaf 2016, rhoddodd Anne Ellis y gorau i’w rôl fel Llywydd Hoci Cymru, ar ôl ugain mlynedd wrth y llyw. Yn ystod y degawdau diwethaf mae hoci yng Nghymru wedi mynd trwy newidiadau sylweddol ac mae Anne wedi bod yn rhan o’r cyfan, a hithau wastad yn gwneud Hoci (a chwaraeon yn gyffredinol) yn ganolog i bopeth a wna. Gwasanaethodd fel Llywydd Cymdeithas Hoci Menywod Cymru ac Undeb Hoci Cymru.
Mae Anne yn adnabyddus ac yn uchel ei pharch ledled y byd ym maes Hoci. Fe arweiniodd fentrau megis Blwyddyn Ieuenctid 1981 ar gyfer y Ffederasiwn Hoci Rhyngwladol, gan ennill Gwobr glodfawr y Llywydd. Yn 2012 fe’i gwnaed yn Aelod Anrhydeddus gan y Ffederasiwn Hoci Rhyngwladol a chafodd Fedal Anrhydedd gan Ffederasiwn Hoci Ewrop.
Mae Anne wedi cael ei chapio 138 o weithiau’n olynol i Gymru, 14 gwaith i Brydain Fawr ac wedi bod yn gapten ar dimau Hoci Menywod Cymru a Team GB. Aeth Anne ymlaen i hyfforddi Cymru a Phrydain Fawr hefyd.
Mae Rolau Anrhydeddus a ddaliwyd gan Anne wedi cynnwys; Cyfarwyddwr Hoci Olympaidd Prydain Fawr; Cadeirydd Pwyllgor Datblygu a Hyfforddi’r Ffederasiwn Hoci Rhyngwladol (y Gymraes gyntaf i ddal swydd o’r fath); Chef de Mission i Dîm Cymru, yng Ngemau’r Gymanwlad ym Melbourne yn 2006; a Llywydd Gemau’r Gymanwlad Cymru.
Mae ar hyn o bryd yn Gadeirydd “Tîm Hoci Spartans” Dinas Abertawe, yr unig dîm merched o Gymru sy’n chwarae yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr ac mae’n gwirfoddoli yn y caffi ar y maes ar y rhan fwyaf o benwythnosau, i godi arian. Ym 1990 fe’i henwyd yn “Hyfforddwr Benywaidd Gorau” gan Sefydliad Prydeinig yr Hyfforddwyr Chwaraeon.
Cafodd Anne MBE ym 1980 am Wasanaethau i Hoci Cymru a Phrydain Fawr ac OBE yn 2005 am wasanaethau i fyd Chwaraeon. Hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn Gobled Coffa Sydney Friskin.