Aelodau Cymreig o TeamGB a ParalympicsGB
Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon
Roedd 2016 yn flwyddyn hynod lwyddiannus i athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru a gystadlodd yn Rio. Treuliodd ein hathletwyr ymroddedig o Gymru oriau yn gweithio nerth deg ewin heb sylw na chlod am flynyddoedd. Fe wnaeth y timau gynrychioli’r wlad ag urddas a dewrder, llawer ohonynt yn goresgyn rhwystrau personol a phoen ar eu siwrne i safon Olympaidd a Pharalympaidd.
Y 24 o athletwyr o Gymru a ddewiswyd gan TeamGB oedd y fintai fwyaf erioed o athletwyr o Gymru i gystadlu yn y Gemau Olympaidd mewn gwlad dramor ac roedd y 10 medal a enillwyd yn Rio yn uwch o lawer na’r record o 7 yn Llundain 2012 ac roedd y pedair medal aur yr un faint â’r cyfanswm a enillwyd yn Antwerp ym 1920.
Yn y Gemau Paralympaidd roedd y 26 o athletwyr o Gymru a ddewiswyd gan ParalympicsGB yn 10% o dîm Prydain Fawr.
Roedd y pum medal aur a sicrhawyd gan athletwyr Paralympaidd o Gymru yn Rio yn uwch na’r tair a enillwyd yn Llundain, ac yn 8% o’r medalau aur a enillwyd gan ParalympicsGB a chynyddodd nifer y campau yr enillodd athletwyr o Gymru fedalau ynddynt hefyd o 4 yn Llundain i 6 yn Rio – athletau, nofio, tenis bwrdd, rhwyfo, saethyddiaeth a phêl-fasged cadeiriau olwyn.
Mae pob un ohonynt yn ysbrydoliaeth anhygoel i bobl ifanc Cymru, sy’n dyheu am gyrraedd y brig yn eu camp unigol hwy, ond fel tîm ac fel unigolion roeddent a byddant yn parhau i fod yn llysgenhadon teilwng ar ran ein gwlad.