Mae tair ffordd unigryw o ddiffinio buddiannau i addysg. Ceir y buddiannau preifat, y buddiannau cymdeithasol a'r buddiannau cynhyrchiant llafur.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Yma, yr agweddau anariannol uniongyrchol/preifat ac anuniongyrchol/cymdeithasol ar ddysgu sydd bwysicaf i ni, sef 'buddiannau anariannol". Mae buddiannau anariannol, ynghyd â buddiannau economaidd (sy'n ffurfio cyfalaf dynol) yn un o'r cyfranogwyr pwysig at Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC), yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Cyfuniad yw'r buddiannau di-gyswllt â'r farchnad o effeithiau Preifat di-gyswllt â'r farchnad ac effeithiau Cymuned di-gyswllt â'r farchnad. Mae dulliau mesur a methodoleg yn parhau'n bryder sylfaenol i ymchwilwyr.
Yn yr UDA defnyddir dull o fesur addysg o ran blynyddoedd yn yr ysgol tra yn y DU mesurir y cymwysterau a enillir. Mae addysg yn ymwneud ag effeithiau economaidd a chymdeithasol ehangach ac mae lles dynol yn dibynnu'n rhannol ar fuddiannau ond hefyd ar safoni costau troseddu, twf poblogaeth arafach, llai o dlodi, amgylchedd glanach a chanlyniadau anariannol sydd i gyd yn deillio o addysg mewn gwahanol ffyrdd. Mae cysylltiadau positif yn bodoli rhwng addysg ac iechyd, iechyd perthnasau, addysg plant, y dewisiadau bywyd a wneir, dewisiadau ffrwythlondeb a marwolaeth ymysg babanod. Mae addysg hefyd yn effeithio'n bositif ar yr amgylchedd ac mae ganddi gydberthynas gref â gostwng troseddau.
Mae addysg yn arwain at gostau a manteision i unigolion a chymdeithas. Mae dau fath o gostau yn wynebu unigolion (mân dreuliau a chynhyrchu rhagdybiedig) tra bod cymdeithas yn wynebu cymhorthdal cyhoeddus ac effeithiau dilynol mewn cynhyrchiant. Mae'r manteision addysg i unigolion yn cynnwys cynnydd mewn cynhyrchiant yn y farchnad (ac felly cyflogau uwch) ac effeithiau preifat nad ydynt yn gysylltiedig â'r farchnad. Mae'r manteision i gymdeithas yn cynnwys enillion mewn technoleg ac effeithiau ar y gymuned nad ydynt yn gysylltiedig â'r farchnad.
Mae'r adroddiad hwn yn egluro ystyr buddiannau (neu fanteision) addysg nad ydynt yn gysylltiedig â'r farchnad i unigolion.