Adroddiad ymchwil ansoddol yn amlinellu canfyddiadau grwpiau ffocws a nifer fechan o gyfweliadau manwl a gynhaliwyd i gefnogi'r ymgynghoriad ar y cynnig i optio allan o roi organnau.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod yr ymchwil ansoddol hwn oedd edrych ar agweddau tuag at roi organau yn gyffredinol, a chynnig Llywodraeth Cymru i optio allan o roi organau. Cynhaliwyd chwe grŵp trafod a saith cyfweliad manwl gydag amrywiaeth o bobl mewn chwe lleoliad yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at amrywiaeth o safbwyntiau ynglŷn â rhoi organau yn gyffredinol, yn ogystal â’r cynnig i optio allan o roi organau. Ar ddiwedd y trafodaethau, gofynnid i’r cyfranogwyr ddadlau o blaid ac yn erbyn y newid i’r ddeddfwriaeth. Ar y cyfan, roeddent yn ei chael yn haws dadlau o blaid, gan ganolbwyntio ar achub mwy o fywydau.