Bydd y prosiect yn darparu tystiolaeth ansoddol o farnau defnyddwyr gwasanaethau, eu gofalwyr ac ymarferwyr ynghylch gweithredu pob un o bedair rhan y Mesur.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ymchwil i gefnogi'r Ddyletswydd i Adolygu Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
Pum adroddiad sydd yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil ansoddol a gynhaliwyd. Mae’r Adroddiad Cryno yn cyflwyno’r prif ganfyddiadau ar gyfer holl rannau’r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) gydag adroddiadau ar wahân yn darparu’r canfyddiadau manwl a’r adborth ar gyfer pob rhan o’r Mesur.
Roedd y fethodoleg yn cwmpasu grwpiau ffocws a chyfweliadau unigol wyneb-yn-wyneb a chyfweliadau dros y ffôn gyda defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar draws bob rhan o’r Mesur.
Dyma’r niferoedd a gymerodd rhan trwy Gymru:
- Rhan 1: 38 defnyddiwr gwasanaeth; 2 ofalwr
- Rhan 2: 60 defnyddiwr gwasanaeth; 39 gofalwr
- Rhan 3: 29 defnyddiwr gwasanaeth; 2 ofalwr
- Rhan 4: 14 defnyddiwr gwasanaeth; 2 ofalwr
Cynhaliwyd grwpiau ffocws a chyfweliadau hefyd gyda 70 ymarferydd iechyd meddwl o’r sector statudol; 40 ymarferydd o’r trydydd sector a 36 staff o naw practis meddyg teulu ledled Gymru.
Adroddiadau
Tystiolaeth ansoddol ynghylch safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr ac ymarferwyr: adroddiad terfynol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 984 KB
Tystiolaeth ansoddol ynghylch safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr ac ymarferwyr: rhan 1 (gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Tystiolaeth ansoddol ynghylch safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr ac ymarferwyr: rhan 2 (cydgysylltu a chynllunio gofal a thriniaeth ar gyfer defnyddwyr iechyd meddwl eilaidd) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Tystiolaeth ansoddol ynghylch safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr ac ymarferwyr: rhan 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Tystiolaeth ansoddol ynghylch safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr ac ymarferwyr: rhan 4 (eiriolaeth iechyd meddwl) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Janine Hale
Rhif ffôn: 0300 025 6539
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.