David Banner
Gwobr Menter enillydd 2017
Mae David ‘Dai’ Banner, a aned yng Nghwm Rhondda, yn Gyfarwyddwr Gemau sydd wedi ennill llu o wobrau ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Wales Interactive, cwmni Gemau Fideo llwyddiannus iawn sydd wedi’i leoli ym Mhen-coed.
Mae gan Dai 21 mlynedd o brofiad yn y diwydiant gemau, ac yn ystod yr amser hwnnw mae wedi datblygu dros 35 o deitlau a’r rheiny’n cwmpasu amrywiaeth eang o blatfformau gemau gan gynnwys PlayStation, Nintendo ac Xbox, gan werthu dros 10 miliwn o gopïau ledled y byd.
Fel entrepreneur ym myd technoleg, yn ystod y 6 blynedd ddiwethaf mae Dai wedi bod yn allweddol yn nhwf y diwydiant gemau yng Nghymru. Mae’n ffigwr allweddol o ran creu swyddi hynod grefftus newydd yn y sector hwn nad oeddent yn bodoli’n flaenorol, yn ogystal â helpu i sefydlu Cymru fel canolbwynt creadigol a digidol cydnabyddedig yn y DU.
Yn 2010 roedd yn gyfrifol am greu’r prosiect GamesLab, menter datblygu digidol ar gyfer Prifysgol De Cymru, a helpodd i feithrin cannoedd o israddedigion a graddedigion ac a ddarparodd lwyfan byd-eang i gwmnïau o Gymru a’u cynnyrch digidol creadigol.
Sefydlodd Dai Sioe Gemau Cymru, sy’n sioe flynyddol, yn 2012, gan roi sylw amlwg i ddiwydiant gemau newydd Cymru, a chan ddenu mewnfuddsoddiad a chreu cyfleoedd swyddi newydd ledled Cymru. Helpodd hefyd i greu’r Cwrs Gradd Celf Gemau ym Mhrifysgol De Cymru, lle bu’n ddarlithydd ymweliadol am 5 mlynedd.
Mae ei gwmni, Wales Interactive, wedi ennill 46 o wobrau hyd yma. Mae’n dylunio, yn datblygu ac yn cyhoeddi gemau fideo ac mae ei fusnes wedi ffynnu, gan ddenu cynulleidfa fyd-eang o 200 miliwn o ddefnyddwyr. Yn ddiweddar fe wnaeth y cwmni lansio’r gêm gyntaf erioed ar gyfer y PlayStation4 a’r Xbox One i gael ei gwneud yn gyfan gwbl yng Nghymru.