Ymgymryd ag ymchwil gyda’r cyhoedd i wybodaeth a safbwyntiau ynghylch gwasanaethau band eang cyflym iawn, a elwir hefyd yn ‘fand eang y genhedlaeth nesaf’ neu’n ‘fand eang ffeibr’, yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Diben pennaf yr ymchwil hon yw datblygu ein dealltwriaeth o gymhellion a nodau pob dydd unigolion a glustnodwyd o’r poblogaethau targed allweddol. Mae'r ymchwil yn rhoi data ansoddol dangosol ynghylch sut yr oedd y poblogaethau targed yn deall ac yn ystyried eu darparwr gwasanaethau rhyngrwyd presennol a gwasanaethau band eang cyflym iawn o safbwynt eu blaenoriaethau personol. Mae’r data yn taflu rhywfaint o oleuni ar ddealltwriaeth, dirnadaeth a defnydd y poblogaethau targed o wasanaethau band eang cyflym iawn a band eang confensiynol.
Adroddiadau
Gwybodaeth a safbwyntiau’r cyhoedd ynghylch gwasanaethau band eang cyflym iawn yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 976 KB
Cyswllt
Nina Prosser
Rhif ffôn: 0300 025 5866
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.