Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn dadansoddi canlyniadau amcanestyniadau poblogaeth sail-2014 ar gyfer y tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru: Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro, ac Eryri.

Amcangyfrifir y bydd poblogaeth Parciau Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Sir Benfro yn gostwng, a phoblogaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynyddu rhwng 2014 a 2029 (amcangyfrifwyd gostyngiadau yn amcanestyniadau poblogaeth 2013).

Mae amcanestyniadau yn dangos y bydd nifer o dan 74 oed yn gostwng rhwng 2014 a 2029. Dros yr un cyfnod, mae amcanestyniadau yn dangos y bydd nifer y bobl 74 oed a throsodd yn cynyddu.

Prif bwyntiau

Amcangyfrifir y bydd:

  • nifer y marwolaethau ym mhob un o’r tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru yn fwy na nifer y genedigaethau
  • disgwyl i fwy o bobl symud i mewn i ardal Bannau Brycheiniog na gadael; o Arfordir Sir Benfro ac Eryri, mae disgwyl i fwy o bobl adael yr ardal na symud i mewn iddi.

Rhwng 2014 a 2029 amcangyfrifir y bydd:

  • mae disgwyl i gyfanswm y boblogaeth gyfan sy’n byw mewn Parc Cenedlaethol yng Nghymru (81,800 yn 2014) ostwng o 4.9% i 77,900
  • mae disgwyl i gyfanswm y boblogaeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheniog (33,600 yn 2014) gynyddu o 1.9%
  • mae disgwyl i gyfanswm y boblogaeth ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro (22,700 yn 2014) ostwng o 14.1%
  • mae disgwyl i gyfanswm y boblogaeth ym Mharc Cenedlaethol Eryri  (25,500 yn 2014) ostwng o 6.6%.

Adroddiadau

Amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer y Parciau Cenedlaethol, sail-2014 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.