Elfed Roberts
Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant
Elfed Roberts yw Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae wedi bod wrth y llyw am bron i 25 mlynedd.
Dan arweinyddiaeth Elfed fel Prif Weithredwr, mae’r Eisteddfod wedi datblygu a newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, trwy gynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i ymwelwyr â’r ŵyl deithiol flynyddol. Mae wythnos yr Eisteddfod yn cynnig bwrlwm o ddigwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol sy’n berthnasol i Gymru heddiw. Mae Elfed wedi cofleidio newid a datblygiadau newydd i adeiladu ar lwyddiannau’r Eisteddfod flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae wedi wynebu heriau trefnu gŵyl deithiol flynyddol trwy fynd benben â hwy mewn hinsawdd ariannol gythryblus. Drwy’r cyfan, mae Elfed wedi sicrhau bod y Gymraeg a threftadaeth Cymru’n ganolog i bopeth a wna.
Gydag Elfed wrth y llyw, mae’r Eisteddfod yn ŵyl hygyrch a chroesawgar, sy’n berthnasol i fywyd cyfoes yng Nghymru ac mae’n denu miliynau o siaradwyr Cymraeg, pobl ddi-Gymraeg a dysgwyr yn flynyddol.
Camp fwyaf yr Eisteddfod hyd yma yw Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016, mewn ardal nad yw fel arfer yn cael ei chysylltu â’r Gymraeg na diwylliant Cymraeg yn arbennig. Er gwaethaf yr heriau, roedd yr Eisteddfod yn llwyddiant ysgubol, a’r orau ers peth amser yn nhyb llawer.